Mela
31 Awst 2010 | Categori: Sioeau
Bu'r sioe "Mela" yn lwyddiant arall i'r ysgol yn ystod gwanwyn 2010, gyda pherfformiadau yn Theatr Hafren, Theatr Felinfach, Theatr Harlech, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Ysgol y Berwyn Y Bala. Noddwyd y sioe hon gan Gyngor y Celfyddydau.



Cefndir y stori
Darn o dir gwael a llwm oedd “Llain Delyn” ar gyrion y dref, a’r unig beth a safai yn agos iddo oedd y cwt, cartref clwb ieuenctid y bobl ifanc.
Prynwyd Llain Delyn a safle’r cwt yn rhad fel ‘tir amaethyddol gwael’ gan Harry Valentine, adeiladydd bychan yn dechrau codi yn y byd. Yn fuan iawn wedyn, a than amgylchiadau amheus, cafwyd caniatad cynllunio ar y tir. Yr hyn oedd yn syndod i bawb oedd fod y cyn-berchennog wedi methu sicrhau caniatad droeon a dyna pam y gwerthwyd y tir mor rhad.
Adeiladodd Valentine stad o fflatiau ar y tir a thÅ· mawr iddo’i hun ar y rhan ucha, yn edrych i lawr dros y stad. Ceisiodd ei orau i ddymchwel y cwt ond methiant fu ei ymdrechion hyd yn hyn, er ei fod yn derbyn rhent am y tir odditano.

Adeilad arall ar gyrion y tir yw tafarn “The Goat”. Yno’n gweithio roedd Margaret, merch smart ond braidd yn dwp. Fel “Magi’r Goat” yr oedd hi’n cael ei hadnabod gan bawb yn y dref. Mynychai Harry’r “Goat” yn aml yn ystod cyfnod adeiladu’r stad ac arweiniodd un peth i’r llall nes iddynt briodi. Yn fuan iawn wedyn, ganwyd merch iddynt, tua’r un adeg ag y cwblhawyd y stad o fflatiau, a bedyddiwyd eu merch dan yr enw “Cherry” – a galwyd y stad yn “Cherry Blossom Close”.
Datblygodd y stad yn le bywiog a hapus, yn debyg i bentref bach, gyda phob math o bobl yn byw yno. Mae criw o’r bobl ifanc yn mynychu’r Coleg Trydyddol lleol, ond i ysgol breifat yr a Cherry.
Mae’r sioe yn dechrau ar ddiwrnod olaf tymor yr haf.




