"Gair yn Gnawd"
21 Tachwedd 2011 | Categori: Newyddion
Bydd ein cynhyrchiad newydd "Gair yn Gnawd" a gyfansoddwyd gan Linda Gittins, Derec Williams a Penri Roberts yn cael ei berfformio gan aelodau Ysgol Theatr Maldwyn yn ystod mis Rhagfyr. Bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn cael ei recordio ar gyfer ei ddarlledu ar Radio Cymru ar ddydd Nadolig eleni.
Nos Sul 11 Rhagfyr am 7.30 - Ysgol y Berwyn Y Bala
Nos Sadwrn 17 Rhagfyr am 7.30 - Canolfan Chwaraeon Llanfair Caereinion
Nos Sul 18 Rhagfyr am 7.30 - Y Plas Machynlleth
