Nadolig Llawen a Blwyddyn newydd dda i bawb yn ysgol theatr maldwyn! Diolch yn fawr i Non, Penri, Mel a fflur am ei gwaith anhygoel dros y flwyddyn diwethaf.
Elen Jones : 29 2010
Os wyt yn meddwl am dod mae yn hwyl a wyt yn gallu wneud pethau wahanol.
Dani : 4 2010
Helo! sut mae pawb ar ol y sioe, roedd e'n arbennig. Edrych ymlaen at gweld y sioe 'Crib, Siswrn a Rasel' dyle e fod yn ffantasig. Pob lwc
Ffion W : 10 Gorffennaf 2010
siaoe arbenig odda da oawn pawb oedd ynddi roedd yn fywiog iawn !!!
rhydian : 29 Ebrill 2010
Sioe arbennig o dda! Yn fywiog ac yn lliwgar dros ben. Mi fydd Mela'n aros yn y cof am byth. Gyda pherfformiadau bendigedig gan bawb, a chaneuon wedi eu canu yn nerthol ac yn gryf, mi wnes i fwynhau'r sioe'n arw.
Chwethais yn ddi- stop ar y jôcs, yn enwedig y golygfeydd yn swyddfa Jenkins!
"Rhowch eich trowsus fyny'r dyn budur!"
Ar ôl i'r geiriau yma gael eu hadrodd mi chwerthais a chwerthin! Am hwyl!
Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd rhan, mae hi'n sioe i fod yn falch ohoni. Ac wrth gwrs, llongyfarchiadau mawr hefyd i Penri, Linda, Derec, Mel a Non am gynhyrchu sioe mor benigamp!
Llongyfarchiadau enfawr, a phob lwc gyda pherfformiadau eraill o'r sioe!
Rhun
Rhun Bleddyn : 29 Ebrill 2010
Dim ond neges fach i ddweud gymaint y gwnes i fwynhau gwylio Mela neithiwr yn y Drenewydd, cymaint o dalent ac ymroddiad gan y bobl ifanc au hyfforddwyr!! castio gwych unwaith eto. Lle mae cyhoeddusrwydd y wasg gymreig i'r llwyddianau hyn- beth sy'n bod ydi bobl yn genfigenus?????????????
Hedddys Jones : 14 Mawrth 2010
Dwi'n meddwl mai ysgol theatr maldwyn ydi'r gorau!!!!!!!! Rwyn disgwyl yn mlaen i mela ac wrth gwrs crib siswrn a rasel!!!!!!!!!!!!!!!¡!!!!!!!!
Arthyr crib siswrn a rasel : 9 Ionawr 2010
Hello Derec, Penri, nice website, looking forward to the shows in 2010, good luck.
Carl Hodgson : 19 Tachwedd 2009
Sioe ffantastig yng Nghaerdydd nos Sul. Llongyfarchiadau i bawb.
Lydia Jones : 27 Hydref 2009
Meddwl dylswn adael neges ar yr wefan fantastic yma! :D Wedi bod yn aelod am 2 flynedd ac yn fy mlwyddyn olaf rwan. Pump diwrnod o ryddid oedd yr sioe mwyaf dwi erioed wedi bod yn rhan o ac nes i mwynhau pob munud ohoni, yn enwedig pan gefais y rhan or Bonedd i perfformio yn y Bala.Y darn mwyaf dwi erioed wedi ei cael a gweithiais yn caled tuag at y perfformiad. Diolch i Penri ar criw am gadael imi gael yr cyfle yna,a diolch i Kate! :P Mae'r sioe "Ar noson fel hon" eto yn freuddwyd ac yn edrych ymlaen ac creu sioe newydd at mis Mwrth/Ebrill. Ni fydd yr breuddwydiau yma wedi dod yn wir heb Penri, Linda, Derec, Mel a Non. Diolch i Derec gefais fy anogi i ymuno ac rwyf heb edrych yn ol ers hyne! Mae'r breuddwyd o dawnsio wedi dod yn wir, ar ol cael fy newis fel dawnswr ir sioe eisteddfod. Sgiliau actio a canu hefyd wedi cael ei datblygu. Wedi gwenud ffrindiau fantastic ac yn mwynhau pob munud or profiadau sydd yn cael ei rhoi. Diolch o galon i Linda, Penri, Derec, Mel a Non am pobeth rydych yn ei wneud! Cawn wneud y sioe nesaf y gorau eto a codi'r safon unwaith eto!! Diolch eto! x x x x x
Sioned Charters : 5 Hydref 2009
Wedi bod yn aelod ers y cychwyn a carem ddiolch i Penri,Linda,Derec,Marian,Mel a Non am y fraint o gael y profiad anhygoel o fod yn rhan o'r holl sioeau. Bydd y profiad ar hyder gennyf am byth.Diolch hefyd am gael y siawns i gymdeithasu a gwnued ffrindiau newydd.Edrychaf ymlaen i'ch gweld i gyd eto ar y daith.
Hwyl o Gaerdydd
Arwel Jones : 22 Medi 2009
Wel helo bawb! Gobeithio eich bod wedi mwynhau gwyliau'r haf a'ch bod wedi'ch bodloni gyda chanlyniadau'r arholiadau! Gwely cynnar i bawb am yr wythnosau nesa rwan, er mwyn bod yn barod am y cyngherddau fis Hydref!!
Non : 27 Awst 2009
Typical fod Jade y neges gynta :). Dyma'r ail, gan fod Penri wedi gofyn i mi wneud.
Wel, be allai ddweud am theatr maldwyn? 'Dw'i 'di bod yn aelod ers ryw 4 mlynedd, oherwydd dyna pryd gychwynes i ganu. 'Dw'i 'di bod wrth fy mod gyda bod mewn sioeau sy'n gwrthgyferbynnu'w gilydd, e.e. Llwybr Efnisien - Pum diwrnod o ryddid. Mae'n rhaid i mi ddweud, profiad arbennig oedd bod yn y sioeau hynny. Eisteddfod Genedlaethol y Bala oedd yn brofiad wefreiddiol, ac rwy'n edrych ymlaen i fynd ar daith gyda'r sioe hynny. Diolch yn fawr i Penri, Linda, Derec, Mel, Marian a Non am bopeth. Hwyl i chi yn y dyfodol. x
Luke McCall : 27 Awst 2009
Wedi bod yn rhan o theatr maldwyn ers pum mlynedd, ac wedi perfformio llawer o sioeau gwahanol dros y flynyddoedd! Mae'r cyfleodd wedi bod yn anhygoel, wrth fynd i berfformio mewn theatrau gwahanol! :) profiad cofiadwy! Yn bersonol, nes i fwynhau'r cyngerdd 'Ar Noson Fel Hon' yn fawr, mi roedd yn bleser cael canu gyda tri chant o bobl! Noson nai gofio am byth! Dwi'n siwr netih pawb cytuno bod pawb wedi gweithio'n galed tuag at y sioe ac ei bod o wedi talu ffwr yn y diwedd! :) Ni fuasai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb Penri, Linda, Derec, Mel, Marian a Non! Diolch yn fawr iawn! Rwyn edrych ymlaen at y daith!!!!! :D x
Jade Poole : 26 Awst 2009
Gadewch unrhyw sylwadau neu adborth am Ysgol Theatr Maldwyn drwy ddefnyddio'r ffurflen isod.
Rydym yn parchu eich preifatrwydd. Ni fyddwn byth yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw un arall. Wnawn ni ddim eich "spamio".
Fields marked with
are required
Rhif y Cwmni: 5289639
© 2012 Ysgol Theatr Maldwyn