Mela
Starts: 13 Mawrth 2010 - Ends: 8 Mai 2010

Sioe am bobl ifanc yw hon, eu pryderon a'u gobeithion, a'r ffordd y mae pobl mewn oed yn "Mela" yn eu bywydau. Mae yna bobl ddrwg yma, pobl sy'n barod iawn i weld bai ar yr ifanc am bopeth - ond mae ysbryd a dyfeisgarwch y bobl ifanc hyn yn gwrthod plygu glin a phan fydd eu 'cefnau at y wal' - dyna pryd y byddan nhw'n ymladd yn ôl ac yn canu: "Mae'r ysbryd eto'n berwi yn ein gwaed."
| Theatr Hafren, Y Drenewydd | Dydd Sadwrn 13 March, 2010 | 7.30yh |
|---|---|---|
| Theatr Ardudwy, Harlech | Dydd Sadwrn 17 Ebrill, 2010 | 7.30yh |
| Canolfan y Celfyddyday Aberystwyth | Dydd Sadwrn 24 Ebrill, 2010 | 7.30yh |
| Theatr Felinfach | Dydd Sadwrn 1 Mai, 2010 | 7.30yh |
| Ysgol y Berwyn, Bala | Dydd Sadwrn 8 Mai, 2010 | 7.30yh |
