Mae staff Ysgol Theatr Maldwyn wedi cynnal safon uchel yn gyson gyda golwg ar ofalu am bobl ifanc. Rydym yn ceisio sicrhau fod rhieni yn derbyn gwybodaeth fanwl ynglyn â gweithgareddau’r ysgol, materion iechyd ac ymweliadau. Rydym yn gosod lles y bobl ifanc ar frig ein rhestr blaenoriaethau. Gobeithiwn fod yr ysgol yn lle croesawgar i bobl ifanc a rhieni; rydym yn ymdrechu i sicrhau ein bod ar gael i drafod unrhyw ofidiau sydd gan rieni.
Pan fydd problemau disgyblaeth yn codi, byddwn bob amser yn ymdrechu i gynnwys y rhieni lle mae hynny’n bosibl ac yn ymarferol. Mae gan yr ysgol bolisi clir a phendant ar fwlio ac rydym yn annog disgyblion i deimlo’n rhydd i drafod unrhyw broblemau a gyfyd - rydym yn ysgol sy’n gwrando.
Fel ysgol berfformio, rydym yn llwyr sylweddoli pwysigrwydd partneriaeth staff a rhieni. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn hyrwyddo a sicrhau safon dda o ymddygiad. Mae Ysgol Theatr Maldwyn yn gweithredu polisi, lle y bydd pob aelod o’r staff presennol yn ymgeisio am ddatganiad gan yr Uned Cofnodion Troseddol. Bydd y polisi hwn hefyd yn cael ei weithredu i aelodau newydd o staff. Gan fod nifer o rieni wedi gwirfoddoli i’n helpu ni ar adegau, megis gefn llwyfan yn ystod perfformiadau, bydd yn ofynnol i ni wneud ceisiadau am ddatganiadau i’r rhieni hynny yn y dyfodol hefyd.
Gobeithio y byddwch yn derbyn y llawlyfr hwn fel cam cadarnhaol tuag at hybu cyfleoedd cyfartal i holl aelodau Ysgol Theatr Maldwyn.
LLawrlwytho Gofal a Rheolaeth (publisher file)
Rhif y Cwmni: 5289639
© 2012 Ysgol Theatr Maldwyn