Sefydlwyd Ysgol Theatr Maldwyn yn 2004. Nod y Cwmni yw i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc y Canolbarth ddysgu sgiliau theatr, megis canu, actio a dawnsio. Mae’r cwmni iau yn cyfarfod ar nos Iau yng Nghanolfan Y Banw a’r cwmni hÅ·n ar nos Fawrth yng Nghanolfan Glantwymyn. Bydd cyfle i aelodau newydd ymuno trwy wrandawiadau a fydd yn cael eu cynnal cyn diwedd tymor yr haf eleni.
Ers ei sefydlu, mae'r Ysgol wedi creu nifer o gynhyrchiadau gan gynnwys sioeau newydd fel "Crib, Siswrn a Rasel" a "Llwybr Efnisien" yn ogystal a chynhyrchiadau newydd o "Nia Ben Aur" a "Pum Diwrnod o Ryddid". Buom ar daith eleni (2009) gyda'r sioe honno, gan lenwi theatrau megis Theatr Hafren, Theatr Aberystwyth, Theatr Harlech, Theatr Felinfach a Neuadd Ysgol y Berwyn Y Bala. Gyda chast o 90 o bobl ifanc, llwyddwyd i ddod a bywyd newydd a ffresni i'r sioe.
Rhyw fath o fabi newydd yw Ysgol Theatr maldwyn; ie babi a anwyd i Gwmni Theatr Maldwyn a fu'n perfformio sioeau a ysgrifennwyd gan Linda Gittins, Derec Williams a Penri Roberts dros chwarter canrif. Ffurfiwyd Cwmni Theatr Maldwyn yn 1981 pan berfformiwyd "Y Mab Darogan" yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth. Yna dros y blynyddoedd, daeth sioeau megis: "Y Cylch", "Y Llew a'r Ddraig", "Myfi Yw", "Pum Diwrnod o Ryddid", "Heledd" a'r sioe olaf "Ann!" a berfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2003.
Dyma rai o'r lluniau trawiadol o'r cyngerdd "Ar Noson Fel Hon" a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala ym mis Awst eleni.
Gallwch archebu lluniau oddiwrthynt trwy ffonio: 01690 348175.



Yn ogystal a'r holl sioeau, bu'r ysgol yn cynnal Cyngherddau Nadolig yn eglwysi: Dolgellau, Machynlleth, Meifod, Llanrhaeadr ym Mochnant a Llanfair Caereinion. Cynhaliwyd Cyngerdd arbennig yn Y Tabernacl Machynlleth i godi arian i Swazaid. Perfformiodd Ysgol Theatr Maldwyn hefyd yn Lolfa Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Tybed oes rhywun yn nabod y tri yma?
Tybed beth ddigwyddodd i'r tri!!
Boi Band neu be?
Cafodd aelodau o Ysgol Theatr Maldwyn gyfleoedd i ymddangos ar y rhaglen deledu "Noson Lawen". Gweler y llun isod o fechgyn y grwp hyn yn recordio yn Stiwdio Barcud yn ymyl Caernarfon.
Y sioe: "3,2,1"

Rhif y Cwmni: 5289639
© 2012 Ysgol Theatr Maldwyn