Fel rheol, cynhelir gwrandawiadau tua diwedd tymor yr haf a bydd aelodau newydd yn ymuno ar ddechrau tymor yr hydref. Nid oes llefydd gwag yn y grwp iau ar hyn o bryd ond gallwn gynnig gwrandawiadau i unrhyw un sydd a diddordeb mewn ymuno gyda'r grwp o 15 - 18 oed yn ystod mis Medi 2009.
Ffurflen 2010
![]()

Mai 2010
Annwyl Gyfaill,
Sefydlwyd Ysgol Theatr Maldwyn ym mis Medi 2004, er mwyn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu a datblygu sgiliau theatr trwy gyfrwng y Gymraeg. Ar hyn o bryd mae 50 o bobl ifanc rhwng 11 a 15 oed yn cyfarfod yn wythnosol yng Nghanolfan y Banw ger Llanfair Caereinion. Ym mis Medi 2005, sefydlwyd ail grŵp i bobl ifanc rhwng 15 ac 18 oed, sy’n cyfarfod yn wythnosol yng Nghanolfan Gymunedol Glantwymyn ac yn ogystal a chymryd rhan mewn cyngherddau, byddwch yn derbyn y profiad o berfformio drama gerdd yn achlysurol. Fel gyda’r grŵp iau, treulir cyfnodau yn hyfforddi a dysgu sgiliau actio, canu a dawns. Eleni, cawsom lwyddiant arbennig gyda’n cynhyrchiad o “Mela” ac fe fydd y grŵp iau yn perfformio “Crib, Siswrn a Rasel” yn ystod mis Gorffennaf.
Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn ymuno â Ysgol Theatr Maldwyn, a wnewch chi gwblhau’r atodiad isod a’i ddychwelyd i mi erbyn Dydd Gwener 18fed Mehefin os gwelwch yn dda. Bydd disgwyl i aelodau dalu £110 y tymor o ffi er mwyn cael manteisio ar yr hyfforddiant hwn. Os bydd mwy nag un aelod o’r un teulu’n aelodau, disgwylir i’r ail aelod dalu £60. Cynhelir y gwrandawiadau yng Nghanolfan Glantwymyn ar y 6ed Gorffennaf ac yng Nghanolfan y Banwa r yr 8fed Gorffennaf.
Disgwylir i bawb sy’n dymuno ymuno gyda’r ddau grŵp ddod i wrandawiad, lle y disgwylir i ddarpar aelodau ganu cân o’u dewis ac ynteu gyfleu darn o lefaru/actio o’u dewis (neu’r darn amgeuedig) neu ddawns i gyfeiliant CD. Darperir cyfeilydd a bydd chwaraeydd CD ar gael. Cewch ddewis ddod i’n cyfarfod ynteu yng Nghanolfan Glantwymyn ar ddydd Mawrth 6ed Gorffennaf neu yng Nghanolfan Y Banw ar ddydd Iau 8fed Gorffennaf. Gofynnwn i chi nodi isod pa ganolfan sydd fwyaf cyfleus i chi.
Yn gywir,
Penri Roberts
![]()
Cyfarwyddwyr/Directors: Linda Gittins, Derec Williams a Penri Roberts
Cyfeiriad/Address: 7 Stryd Fawr, Llanidloes, Powys SY18 6BY
Ffôn/Phone: 01686 413480 Ffôn symudol/Mobile: 07840403395
Cyfeiriad E-bost/E-mail address: penri@pc-q.net
Gwefan/Website: www.ysgoltheatrmaldwyn.co.uk
Rhif y Cwmni: 5289639
"……………………………………………………………………………………………
Ysgol Theatr Maldwyn
Mae gen i ddiddordeb mewn ymuno gyda’r grwp o:
Rhowch ü 11 – 15 neu 15 - 18 oed ym Medi 2010.
Dewisiwch y ganolfan mwyaf cyfleus i chi:
Glantwymyn Y Banw
Enw:……………………………………………………………………………
Cyfeiriad:……………………………………………………………………….
Cod Post:………………………….Ffôn:……………………………………….
Cyfeiriad e-bost:………………………………………………………………..
Anfoner i: Penri Roberts, 7 Stryd Fawr, Llanidloes, Powys SY18 6BY
Rhif y Cwmni: 5289639
© 2012 Ysgol Theatr Maldwyn